Iaith Semitaidd yw'r ArabegListeni/ˈærəbɪk/ (العَرَبِيةُ a gafodd ei hystyried fel yr Arabeg Glasurol yn y 6ed ganrif. Ysgrifennir ieithoedd Semitaidd (heblaw Malteg) o'r dde i'r chwith. Arabeg yw iaith y Coran, llyfr sanctaidd y Mwslimiaid. Caiff ei siarad ar draws Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol hyd at Irac ac ynysoedd y Maldif a hi yw chweched iaith y byd yn nhermau nifer ei siaradwyr os ystyriwn hi fel un iaith yn hytrach na chasgliad o dafodieithoedd.[2] Hewddiw, yr unig ffurf safonol o Arabeg yw 'Arabeg Modern Safonol a elwir weithiau'n 'Arabeg Lenyddol'.[3] Mae'r geiriau Cymraeg alcali, alcemeg, alcof, alcohol, algebra, candi, lemon, sebon a soffa yn dod o'r Arabeg. Ymadroddion Cyffredin Trawsgrifiad Arabeg yn yr wyddor Ladin. عربية : Arabiyya : Arabeg ويلزي : wailzi : Cymraeg لغة بلاد الغال : lwghat bilâd 'al-ghâl : Iaith Cymru إنكليزي : 'inglizi : Saesneg ! مرحبا : marHaban! : Helo! ! لا بأس : la ba's! : Ddim yn ddrwg! ("la ba's?" yw'r ffordd arferol o ddweud "Helo!" neu "Shwmae!" yn anffurfiol. Atebir gyda "la ba's!".) ! (عليكم)السلام : 'as-salam (Alaicwm)! : Heddwch (arnoch chi)! ! وعليكم السلام : wa Alaicwm, 'as-salam! : Ac i chwithau, heddwch! كيف الحال : caiff 'al-hâl? : Sut mae? ! بخير، الحمد لله : bi-chair, 'al-Hamdw-li-lah! : Yn dda, diolch i Dduw! ! صباح الخير : SabaH 'al-chair! : Bore/P'nawn da! ! مساء الخير : masa' 'al-chair! : Noswaith dda! ! أهلا وسهلا : 'ahlân wa-sahlân! : Croeso! ! تصبح على خير : tySbiH Alâ chair! : Nos da! ! ليلة سعيدة : laila sAida! : Nos da! ! مع السلامة : mA-s-salama! : Da boch chi! ! إلى اللقاء : 'ilâ-l-iga'! : Hwyl fawr! ! سلام : salam! : Heddwch! ( "salam!" yw'r ffordd arferol o ddweud "Hwyl (fawr)!". Gellir defnyddio "salam!" i ddweud "Helo!" hefyd. ! عفوا : Affwân! : Esgusodwch fi! / Da chi! ! من فضلك : min ffaDlac! : Os gwelwch chi'n dda! ! (جزيلا) شكرا : shwcran (jazîlan)! : Diolch (yn fawr)! ! لا، شكرا : la' shwcran : Dim diolch ! آسف : 'asiff! : mae'n flin gen i! نعم : nAm : ïe / do / oes, etc. ﻻ : la' : nage / naddo / nag oes, etc. ! بصحتك : bi-SiHat-ac! : Iechyd da! ! الحمد لله : 'al-Hamdw-li-lah! : Diolch i Dduw! ! إن شاء الله : 'in sha'-l-lah! : Os bydd Duw yn gytun! / Yn obeithiol! |
About us|Jobs|Help|Disclaimer|Advertising services|Contact us|Sign in|Website map|Search|
GMT+8, 2015-9-11 20:13 , Processed in 0.156799 second(s), 16 queries .